Sim farm regulation: economic note (accessible welsh)

feature-image

Play all audios:

Loading...

* Home Office Consultation outcome SIM FARM REGULATION: ECONOMIC NOTE (ACCESSIBLE WELSH) Updated 18 December 2023 This was published under the 2022 to 2024 Sunak Conservative government


CONTENTS * Nodyn Economaidd Rhif: HOEN0026 * Sail Dystiolaeth * 1. Cefndir * 2. Mater polisi a sail resymegol dros ymyriadau gan y llywodraeth * 3. Amcanion polisi a’r effeithiau bwriadedig


* 6. Risgiau * 7. Gweithredu, monitro a gwerthuso Print this page © Crown copyright 2023 This publication is licensed under the terms of the Open Government Licence v3.0 except where


otherwise stated. To view this licence, visit nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3 or write to the Information Policy Team, The National Archives, Kew, London TW9


4DU, or email: [email protected]. Where we have identified any third party copyright information you will need to obtain permission from the copyright holders concerned. This


publication is available at https://www.gov.uk/government/consultations/preventing-the-use-of-sim-farms-for-fraud/sim-farm-regulation-economic-note-accessible-welsh NODYN ECONOMAIDD RHIF:


HOEN0026 Teitl y cynnig rheoleiddiol: Rheoleiddio Ffermydd SIM Adran/Asiantaeth Arweiniol: Y Swyddfa Gartref Dyddiad gweithredu disgwyliedig: Cyhoeddi’r ymgynghoriad – 3 Mai Deddfwriaeth –


pan fydd amser Seneddol yn caniatáu Tarddiad: Domestig Dyddiad: 21/04/2023 Manylion Cysylltu yr Adran Arweiniol: [email protected] [email protected]


Asesiad Adrannol: Gwyrdd SAIL RESYMEGOL DROS YR YMYRIAD, AMCANION AC EFFEITHIAU BWRIADEDIG Yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2022, amcangyfrifir bod 3.7 miliwn o ddigwyddiadau o


dwyll yng Nghymru a Lloegr, sy’n fwy na 40 y cant o’r amcangyfrif o droseddau. Mae troseddwyr yn defnyddio technolegau fel Ffermydd SIM i dargedu defnyddwyr drwy negeseuon testun a galwadau


sgam. Mae’r Llywodraeth yn credu bod angen deddfwriaeth i reoleiddio technolegau a ddefnyddir gan droseddwyr i gyflawni twyll. Yr amcan strategol yw amddiffyn dinasyddion y DU rhag twyll


sy’n cael ei alluogi gan dechnolegau fel ffermydd SIM drwy alwadau a negeseuon testun, a’r bwriad yw lleihau lefelau twyll yn y DU. OPSIYNAU POLISI (GAN GYNNWYS DEWISIADAU ERAILL YN LLE


RHEOLEIDDIO) Opsiwn 1: Gwneud dim. Opsiwn 2: Deddfu i greu trosedd newydd o weithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, meddu a defnyddio technolegau a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU. Bydd y


drosedd yn gymwys i ffermydd SIM yn y DU i ddechrau, ond yn y dyfodol gallai gael ei diweddaru i gynnwys technolegau eraill tebyg. CRYNODEB COSTAU A BUDD Ar hyn o bryd nid yw’r dystiolaeth


yn ddigon cryf ar gyfer arfarniad â gwerth ariannol llawn, ac mae’r costau a’r budd wedi’u hasesu yn ansoddol. Mae’r prif gostau i fusnesau sy’n gweithgynhyrchu, dosbarthu neu werthu


ffermydd SIM, a fydd yn gorfod amsugno costau stoc heb eu gwerthu a refeniw is o bosibl. Y budd mwyaf yw lleihad mewn twyll. RISGIAU Mae risg bod yr effaith ar fusnes yn fwy nag y bu’n


bosibl ei amcangyfrif, gan fod y sail dystiolaeth yn gyfyngedig, ac mae’n debyg na fyddai newid y dull o reoleiddio yn atal troseddwyr yn gyfan gwbl rhag gallu anfon negeseuon SMS torfol, a


gallai eu symud at ddulliau eraill. CYFANSWM Y GOST £M: GWERTH PRESENNOL N/A COST PONTIO £M N/A COST I FUSNES £M N/A CYFANSWM Y BUDD £M: GWERTH PRESENNOL N/A NPSV (£M) N/A BNPV (£M) N/A


EANDCB (£M) N/A SGÔR BIT (£M) N/A BLWYDDYN SAIL PRIS N/A BLWYDDYN SAIL GWERTH PRESENNOL N/A CYFNOD ARFARNU N/A CYFNOD PONTIO N/A CYMERADWYWYD GAN YR ADRAN (UWCH WASANAETH SIFIL): Jemima


Murray, Uwch Berchennog Cyfrifol, Dyddiad: 27/04/2023 CYMERADWYWYD GAN Y PRIF ECONOMEGYDD: Tim Laken, Uwch Wasanaeth Sifil, Dyddiad: 27/04/2023 CYMERADWYWYD GAN YR UNED GWELL RHEOLEIDDIO:


Jon Bray, Uned Gwell Rheoleiddio, Dyddiad: 27/04/2023 SAIL DYSTIOLAETH 1. CEFNDIR 1. Amcan strategol y mesur hwn yw lleihau nifer a graddfa galwadau ffôn a negeseuon testun twyllodrus sy’n


cyrraedd defnyddwyr yn y DU, ac effaith ariannol ac emosiynol y twyll sy’n deillio ohonynt. Mae twyll yn fygythiad mawr i economi, defnyddwyr a chymdeithas y DU, â bron i 3.7 miliwn o


droseddau bob blwyddyn, sy’n fwy na 40 y cant o’r amcangyfrif o droseddau.[footnote 1] 2. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, derbyniodd Action Fraud, y gwasanaeth adrodd am


dwyll a throseddau seiber, adroddiadau dioddefwyr gan unigolion a busnesau a oedd yn cynrychioli colled ariannol o £4.2 biliwn.[footnote 2] Mae’n debyg bod y gwir golledion yn llawer uwch


gan mai dim ond 14 y cant o’r achosion o dwyll sy’n cael eu riportio1. Yn ychwanegol at hyn, mae costau cymdeithasol ehangach ar ffurf niwed emosiynol i ddioddefwyr, costau cefnogi


dioddefwyr a gwariant ataliol gan fusnesau. 3. Mae’r cynigion yn unol â’r ymrwymiad a wnaethpwyd gan y Swyddfa Gartref yn y Strategaeth Dwyll i atal twyll rhag cyrraedd unigolion a busnesau,


drwy ei gwneud mor anodd ag sy’n bosibl i droseddwyr weithredu ar raddfa fawr heb gael eu darganfod. Maent yn rhan o waith ehangach i ddiogelu rhwydweithiau telathrebu, gan gynnwys Siarter


y Sector Twyll Telathrebu [footnote 3] a rheolau a chanllawiau atgyfnerthedig Ofcom [footnote 4] i ddarparwyr er mwyn adnabod a blocio galwadau â rhifau wedi eu ‘ffugio’.[footnote 5] 4.


Mae’r Swyddfa Gartref yn diffinio ffermydd SIM fel dyfeisiau yn cynnwys pum cerdyn SIM (Modiwl Adnabod y Tanysgrifiwr) neu fwy, ar gyfer un neu ragor o rwydweithiau dyfeisiau symudol, sy’n


galluogi llwybro galwadau ffôn neu anfon negeseuon testun o gyfarpar sefydlog i offer symudol drwy sefydlu cysylltiad galwad ffôn neu ddata o un ddyfais symudol i un arall. 5. Yn y bôn, dim


ond pedwar gweithredwr dyfeisiau symudol sydd yn y DU, ac mae pob darparwr arall yn cael ei gario gan eu gwasanaethau hwy. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i ddyfeisiau sydd â phum slot SIM


neu fwy sicrhau cysylltedd di-dor. 6. O ganlyniad, rhaid i ddyfais sy’n cynnwys mwy na phum cerdyn SIM fod yn defnyddio rhwydwaith penodol drwy amryfal gysylltiadau, felly gellir ei


defnyddio mewn ffordd wahanol i ddyfais â phedwar cerdyn neu lai. 7. Yn ôl Arolwg Sgamiau Ofcom [footnote 6], a gyhoeddwyd ym mis Awst 2022, yn ystod y cyfnod Mehefin-Awst 2022, dywedodd tri


chwarter pobl y DU eu bod wedi cael neges amheus, ar ffurf neges destun, neges wedi’i recordio neu alwad llais byw i ddyfais symudol. Amcangyfrifir bod hyn yn 40.8 miliwn o oedolion yn y


DU. Amcangyfrifir bod 700,000 wedi dilyn cyfarwyddiadau’r sgamiwr, gan roi eu hunain mewn sefyllfa lle gallent ddioddef colled ariannol a thrallod emosiynol sylweddol. 8. Negeseuon testun


yw’r math mwyaf cyffredin o neges amheus, â mwy na chwech o bob 10 person (65 y cant o’r ymatebwyr) yn dweud eu bod wedi cael negeseuon testun amheus. Roedd nifer yr adroddiadau am alwadau


ffôn amheus yn llai, ond mae’n dal yn arwyddocaol. Dywedodd cyfanswm o 21 y cant o’r ymatebwyr eu bod wedi derbyn galwadau ffôn byw amheus i’w dyfeisiau symudol ac 19 y cant i’w llinellau


tir. 9. Mae cyfran anhysbys o’r negeseuon hyn yn dod o dechnolegau sy’n galluogi troseddwyr i weithredu ar raddfa fawr, er enghraifft ffermydd SIM. 10. Prin yw’r dystiolaeth o achosion lle


gwneir defnydd cyfreithlon o ffermydd SIM, ac ar gyfer pob achos o’r fath mae’n debyg bod opsiynau amgen yn bodoli. O ganlyniad, mae’r Swyddfa Gartref yn ymgynghori ynglŷn â chynigion i


reoleiddio gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi a meddu ar ffermydd SIM yn y DU, yn ogystal â gofyn a ddylai hyn gynnwys technolegau eraill heb ddefnydd cyfreithlon y gwyddys amdano.


11. Nid oes data manwl ar gael ar hyn o bryd ynglŷn â’r cysylltiad rhwng ffermydd SIM ac anfon negeseuon testun sgam torfol. Mae’r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn ceisio ei gwneud yn anos


i droseddwyr ddefnyddio a chael mynediad at dechnolegau sy’n eu galluogi i dargedu pobl ar raddfa fawr a heb eu darganfod yn y DU, er enghraifft ffermydd SIM. Nid yw hyn yn bosibl dan


Ddeddf Twyll 2006 [footnote 7] fel y mae ar hyn o bryd. Mae’r Swyddfa Gartref yn lansio ymgynghoriad ar y cynigion i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, neu gynnig ar werth, rhoi ar


osod neu gynnig rhoi ar osod, a meddu neu reoli eitemau a restrwyd dan Ddeddf Twyll 2006. Mae ffermydd SIM yn dechnoleg o’r fath. 12. Mae galluoedd tebyg ar gael ar wefannau fel iSpoof.


Roedd iSpoof yn cynnig gwasanaethau a oedd yn galluogi’r rhai a oedd yn cofrestru ar y wefan ac yn talu ffi i wneud galwadau wedi eu ffugio, anfon negeseuon wedi’u recordio a rhyng-gipio


cyfrineiriau untro. Roedd hyn yn galluogi troseddwyr i ffugio bod yn fusnesau dilys y mae pobl yn ymddiried ynddynt a chynnal ymosodiadau teilwra cymdeithasol.[footnote 8] 13. Gan nad oes


llawer o dystiolaeth o ddefnydd cyfreithlon ac anghyfreithlon, niwed, graddfa a ffactorau eraill, bydd cais am dystiolaeth yn cael ei gynnwys fel rhan o’r ymgynghoriad. Bydd y cais am


dystiolaeth yn ceisio casglu gwybodaeth a data a fydd yn caniatáu i’r Swyddfa Gartref gael gwell dealltwriaeth o’r niferoedd a’r effeithiau ar fusnesau. Yna bydd y Swyddfa Gartref yn gwneud


arfarniad manylach i gefnogi’r ddeddfwriaeth. GRWPIAU SY’N CAEL EU HEFFEITHIO BUSNESAU * Busnesau sy’n cael eu heffeithio gan negeseuon testun/galwadau ffôn sgam * Busnesau sy’n


gweithgynhyrchu, dosbarthu neu werthu ffermydd SIM * Gweithredwyr Rhwydwaith Ffonau Symudol UNIGOLION * Teulu, ffrindiau, a chydweithwyr cyflawnwyr * Teulu, ffrindiau a chydweithwyr


dioddefwyr * Y cyhoedd yn y DU * Cyflawnwyr Y SECTOR CYHOEDDUS * Y System Cyfiawnder Troseddol * Gweinyddiaethau Datganoledig * Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) * Adrannau’r Llywodraeth *


Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlThEF) (gan gynnwys sefydliadau cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon) * Asiantaethau Gorfodi’r Gyfraith ledled y DU ac aelodau o’r


asiantaethau hyn * Asiantaethau cudd-wybodaeth y DU ac aelodau o asiantaethau cudd-wybodaeth y DU 2. MATER POLISI A SAIL RESYMEGOL DROS YMYRIADAU GAN Y LLYWODRAETH 14. Mae’r Llywodraeth wedi


nodi ei huchelgais o fynd i’r afael â thwyll yn y Strategaeth Dwyll, sy’n cynnwys ymdrech fawr i gynyddu’r ymateb i dwyll drwy orfodi’r gyfraith, grymuso dioddefwyr i ddiogelu eu hunain a


gweithio mewn cysylltiad agos â diwydiant a rheoleiddwyr er mwyn atal twyll rhag digwydd yn y lle cyntaf. Mae’r gwaith hwn yn elfen allweddol o’r golofn hon, sydd hefyd yn cynnwys


deddfwriaeth i fynd i’r afael â thwyll ar-lein a mwy o weithgaredd rheoleiddio gan Ofcom i fynd i’r afael â galwadau ffôn sgam. 15. Mae negeseuon testun sgam yn aml yn cael eu holrhain yn ôl


i ffermydd SIM, sy’n gallu bod â channoedd neu filoedd o gardiau SIM. Mae troseddwyr yn eu defnyddio i anfon degau o filoedd o negeseuon testun sgam ar unwaith yn rhad, yn gyflym, ac yn


hawdd. Maent yn anfon llawer iawn o negeseuon SMS (Gwasanaeth Negeseuon Byr) i “we-rwydo drwy SMS” [footnote 9] a chael gafael ar ddata sensitif, er enghraifft manylion personol a manylion


banc. Mae ffermydd SIM yn caniatáu i droseddwyr ddefnyddio holl alluoedd cardiau SIM mewn symiau mawr ac am gost isel. 16. Mae defnydd anghyfreithlon o ffermydd SIM yn cynnwys: a. Anfon


nifer fawr iawn o negeseuon testun sgam am gost isel. Darganfu un ymchwiliad gan yr heddlu fod pum SIM wedi anfon dros 900,000 o negeseuon mewn un fferm SIM rhwng Ebrill a Hydref mewn un


flwyddyn. b. Ymgyrchoedd galwadau ffôn sgam. c. Defnyddio cardiau SIM data yn unig i dargedu dioddefwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft drwy bostio negeseuon camarweiniol, anwir


neu we-rwydo ar-lein ar raddfa fawr yn fwriadol. 17. Gall y negeseuon testun a galwadau ffôn torfol sy’n cael eu galluogi gan ffermydd SIM achosi rhagor o broblemau, er enghraifft tagu’r


rhwydwaith, atal galwadau ffôn a negeseuon testun dilys rhag mynd drwodd. Mae arbenigwyr[footnote 10] o fyd diwydiant wedi awgrymu bod 10-15 y cant o holl draffig rhwydwaith dyfeisiau


symudol yn dod o ffermydd SIM. 18. Mewn un ymchwiliad a gynhaliwyd gan yr heddlu, darganfuwyd bod un fferm SIM yn anfon cannoedd o filoedd o negeseuon testun bob diwrnod. Bydd gwahardd y


defnydd o ffermydd SIM yn ei gwneud yn anos i droseddwyr anfon negeseuon testun sgam ar y math yma o raddfa. Dylai cyfyngu ar nifer y negeseuon testun twyllodrus leihau nifer y dioddefwyr


twyll a’r costau cysylltiedig, gan gynnwys colledion ariannol a niwed corfforol/emosiynol. 19. Ar hyn o bryd mae’n gyfreithlon yn y DU i fusnesau neu ddefnyddwyr brynu, gosod a defnyddio


ffermydd SIM at ddefnydd personol, mewn gosodiad a elwir yn Byrth GSM Defnydd Untro[footnote 11], ond mae troseddwyr yn manteisio ar hyn er mwyn cyflawni sgam torfol ac anfon negeseuon


gwe-rwydo. 20. Mae angen ymyriad gan y llywodraeth er mwyn mynd at wraidd y broblem a thargedu’r dulliau a ddefnyddir gan droseddwyr i anfon negeseuon testun sgam a galwadau ffôn sgam, er


enghraifft ffermydd SIM. Bwriad y ddeddfwriaeth hon yw rheoleiddio’r offer a ddefnyddir gan droseddwyr i gynnal ymgyrchoedd twyll torfol a sicrhau bod gan sefydliadau gorfodi’r gyfraith yr


offer y mae arnynt eu hangen i fynd ar ôl troseddwyr. 21. Er hyn, mae defnydd cyfreithlon posibl. Gall ffermydd SIM gael eu defnyddio yn y farchnad SMS Busnes-i-Gwsmer, i leihau costau anfon


negeseuon torfol (er enghraifft ymgyrchoedd marchnata a negeseuon wedi’u hawtomeiddio i atgoffa pobl am apwyntiadau). Mae’n bosibl defnyddio dyfeisiau tebyg â llai na phum slot ar gyfer


llawer o’r gweithgareddau cyfreithlon a nodwyd. 22. Bydd angen i unrhyw ddeddfwriaeth ystyried y gweithgareddau dilys hyn ochr yn ochr â’r amcan o leihau gallu troseddwyr i gyflawni twyll ar


raddfa fawr, ac o bosibl allu’r Sector Cyhoeddus i anfon negeseuon hysbysu SMS (er bod dewisiadau amgen yn bodoli). 3. AMCANION POLISI A’R EFFEITHIAU BWRIADEDIG 23. Nod y cynigion yw


lleihau nifer a graddfa’r negeseuon twyllodrus sy’n cyrraedd defnyddwyr drwy ddulliau telathrebu (hynny yw, galwadau ffôn a negeseuon testun). Mae’r cynigion yn debygol o leihau nifer y


negeseuon testun a’r galwadau ffôn sgam torfol a anfonir at ddefnyddwyr. Mae’r Swyddfa Gartref yn disgwyl y bydd hyn yn lleihau nifer yr achosion o dwyll sy’n deillio o hynny a’r costau


ariannol ac emosiynol dilynol i ddioddefwyr. 24. Ar hyn o bryd, gellir prynu Fferm SIM ar-lein gan fanwerthwyr a marchnadoedd ar-lein. Canfuwyd bod un platfform yn gwerthu ffermydd SIM 16


slot am £1,156. Fel arfer mae’r rhain yn cael eu gweithgynhyrchu dramor ac yn cael eu mewnforio drwy sianeli manwerthu cyfreithlon. Dylai’r ddeddfwriaeth hon ei gwneud hi’n amhosibl i


brynu’r dyfeisiau hyn yn y DU drwy fanwerthwyr dilys. 25. Mae’r cynigion yn unol â’r ymrwymiad a wnaeth y Swyddfa Gartref yn y Strategaeth Dwyll i atal twyll rhag cyrraedd pobl a busnesau,


drwy ei gwneud mor anodd ag sy’n bosibl i droseddwyr weithredu ar raddfa fawr a heb gael eu darganfod. Maent yn rhan o waith ehangach i ddiogelu rhwydweithiau telathrebu, gan gynnwys Siarter


y Sector Twyll Telathrebu[footnote 12] a rheolau a chanllawiau atgyfnerthedig Ofcom i ddarparwyr er mwyn adnabod a blocio galwadau â rhifau ‘wedi eu ffugio’.[footnote 13] 26. Mae’r Nodyn


Economaidd hwn yn cefnogi ymgynghoriad ar y cynigion i reoleiddio ffermydd SIM. Mae’r Swyddfa Gartref yn bwriadu gofyn i ymgyngoreion: a) Pa ddata sydd gennych i ddangos maint y defnydd


cyfreithlon o ffermydd SIM a faint o fusnesau sy’n defnyddio’r dyfeisiau hyn yn gyfreithlon ar hyn o bryd? b) Pa ddata sydd gennych i ddangos maint y defnydd anghyfreithlon o ffermydd SIM a


beth yw lefel y niwed y maent yn ei achosi i’r cyhoedd ar hyn o bryd, o ran colledion, negeseuon testun sgam, niwed emosiynol ac yn y blaen? c) Pa effeithiau rydych chi’n meddwl y byddai


gwaharddiad ar ffermydd SIM yn eu cael ar ddefnydd cyfreithlon ac anghyfreithlon? d) A oes unrhyw dechnolegau eraill rydych yn meddwl y dylid eu hystyried? OPSIYNAU POLISI A YSTYRIWYD, GAN


GYNNWYS DEWISIADAU ERAILL YN LLE RHEOLEIDDIO OPSIWN 1: (GWNEUD DIM) 27. Byddai Opsiwn 1 yn golygu dim ymyriad gan y llywodraeth drwy newidiadau i ddeddfwriaeth. Ni fyddai’r technolegau sydd


o fewn y cwmpas yn cael eu rheoleiddio ac ni fyddai unrhyw newid i’w statws. Mae costau a budd ar gyfer yr opsiwn arall sy’n cael ei asesu yn y Nodyn Economaidd hwn yn cael eu mesur mewn


perthynas â’r sefyllfa ‘Gwneud dim’ (sy’n cynrychioli’r gwrthffeithiol yn y dadansoddiad hwn). 28. Nid yw Opsiwn 1 yn bodloni amcanion y Llywodraeth. OPSIWN 2 29. Gwahardd gweithgynhyrchu,


mewnforio, gwerthu, gosod neu logi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM. 30. Byddai’r Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n creu trosedd ac yn rhestru’r technolegau arfaethedig, er


enghraifft ffermydd SIM ac unrhyw dechnolegau eraill a nodwyd yn yr ymgynghoriad. Byddai’r Ysgrifennydd Gwladol yn gallu diwygio’r rhestr i ychwanegu eitem newydd yn y dyfodol, os oes


tystiolaeth bod y dechnoleg yn cael ei defnyddio mewn twyll. 31. Byddai’r cynigion yn lleihau mynediad troseddwyr at dechnolegau sy’n caniatáu iddynt dargedu dioddefwyr ar gyfer twyll ar


raddfa fawr ac am gost isel. Mae’r Swyddfa Gartref yn rhagweld y byddai cymhwyso’r drosedd yn arwain at leihad mewn twyll. OPSIYNAU AR WAHÂN I REOLEIDDIO 32. Mae’r llywodraeth, sefydliadau


gorfodi’r gyfraith a diwydiant eisoes wedi cyflwyno mesurau ar wahân i reoleiddio i fynd i’r afael â gwe-rwydo torfol drwy SMS. [footnote 14] Yn 2019, sefydlodd Ofcom a UK Finance y rhestr


Heb Ddangos Tarddiad (DNO) sy’n cofnodi rhifau ffonio i mewn yn unig na ddylid eu defnyddio i alw defnyddwyr, gan gynnwys y rhai sy’n dod o ffermydd SIM. 33. Yn ychwanegol at hyn, ym mis


Hydref 2021, lansiodd y Llywodraeth Siarter y Sector Twyll Cyfathrebu3, cod gwirfoddol yn cynnwys naw cam gweithredu ar gyfer darparwyr telathrebu. Mae’r camau gweithredu yn cynnwys gwaith


wedi’i gydgysylltu er mwyn: a. Nodi a gweithredu technegau i flocio negeseuon testun a galwadau ffôn sgam. b. Gweithio mewn cysylltiad agos â sefydliadau gorfodi’r gyfraith a’r diwydiant


ariannol er mwyn tarfu ar dwyll sy’n digwydd ac erlyn troseddwyr. c. Ymgysylltu â grwpiau defnyddwyr a chefnogi dioddefwyr er mwyn gwella cefnogaeth i ddioddefwyr twyll telathrebu. 34. Mae


mentrau ym myd diwydiant hefyd wedi ystyried diogelu defnyddwyr, busnesau dilys a sefydliadau sy’n dod yn ddioddefwyr sgamiau negeseuon testun, drwy systemau sy’n gwirio pennyn neges SMS.


35. Er gwaetha’r mesurau hyn, mae tystiolaeth yn awgrymu bod nifer a graddfa’r negeseuon twyllodrus sy’n cyrraedd defnyddwyr drwy delathrebu yn dal yn uchel. Ar hyn o bryd nid yw troseddwyr


yn wynebu unrhyw rwystrau o ran caffael ffermydd SIM. 36. Mae’r llywodraeth yn ymgynghori er mwyn cael gwell dealltwriaeth o effeithiau posibl Opsiwn 2. Wrth ystyried a ddylid deddfu, bydd y


cydbwysedd rhwng yr effeithiau a’r costau a’r budd yn cael ei ystyried yn llawn. ARFARNU 37. Gan nad oes digon o dystiolaeth, mae ansicrwydd o hyd ynglŷn ag effaith y cynigion ar fusnesau


a’r costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno a gweithredu’r gwaharddiad. 38. Bydd y ddogfen ymgynghori yn cynnwys cais am dystiolaeth, er mwyn casglu gwybodaeth a data fel bod modd gwneud


amcangyfrifon cywirach o’r niferoedd a’r effeithiau ar fusnesau sy’n cael eu heffeithio. TYBIAETHAU CYFFREDINOL A DATA 39. Er bod ymdrechion wedi’u gwneud i ddeall y costau a’r budd i bob


grŵp sy’n cael eu heffeithio, nid oes gwerth ariannol i’r costau a’r buddion. Lle bo modd rhoddir ffigurau er mwyn cael syniad o’r raddfa a dibynnir ar y tybiaethau gorau sydd ar gael ar hyn


o bryd, yn hytrach na thystiolaeth gynhwysfawr. Ar hyn o bryd nid yw’r dystiolaeth yn ddigon cryf er gyfer arfarniad â gwerth ariannol llawn, ac o ganlyniad mae costau a buddion wedi’u


hasesu’n ansoddol. 40. Mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio data sydd ar gael i ddatblygu’r sail dystiolaeth ar gyfer y nodyn economaidd hwn, a bydd yn ceisio defnyddio’r wybodaeth a


gasglwyd drwy’r ymgynghoriad i gryfhau a diweddaru’r dadansoddiad cyn cyhoeddi asesiad terfynol o’r effaith. CRYNODEB O’R COSTAU A’R BUDDION YN ÔL GRWPIAU SY’N CAEL EU HEFFEITHIO: GRŴP


COSTAU BUDDION Y CYHOEDD Ni ddisgwylir unrhyw gostau uniongyrchol i’r cyhoedd o ganlyniad i reoleiddio ffermydd SIM. Byddai’r gwaharddiad ar ffermydd SIM yn lleihau nifer y negeseuon testun


sgam a dderbynnir gan ddefnyddwyr, a disgwylir y bydd hynny’n lleihau nifer y dioddefwyr twyll a cholledion. Y SECTOR CYHOEDDUS Costau ymgyfarwyddo i’r heddlu a staff Llu’r Ffiniau.  


GWEITHREDWYR RHWYDWEITHIAU FFONAU SYMUDOL (MNOS) Ar hyn o bryd mae Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol yn derbyn refeniw o’r holl gardiau SIM sy’n cael eu prynu a’u defnyddio gan


droseddwyr mewn ffermydd SIM. Byddai gwahardd ffermydd SIM felly’n arwain at lai o refeniw i Weithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol. Mae Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol yn wynebu


costau ychwanegol ar hyn o bryd gan ei bod yn ofynnol iddynt fuddsoddi er mwyn cynyddu capasiti’r seilwaith, gan fod ffermydd SIM yn achosi mynediad arafach i’r rhwydwaith ac yn gallu


gwneud i fastiau signal beidio â gweithio. Gall cost gweithgynhyrchu a dosbarthu cardiau SIM sy’n cael eu diffodd cyn pen 30 munud fod yn golled i Weithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol.


Gall Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol hefyd wynebu costau wrth geisio canfod ac analluogi cardiau SIM sy’n cael eu defnyddio mewn ffermydd SIM. DEFNYDDWYR CYFREITHLON Byddai


busnesau sy’n defnyddio’r dyfeisiau hyn yn gyfreithlon ar hyn o bryd yn gorfod rhoi’r gorau i’w defnyddio ac ariannu’r gost o newid i dechnoleg amgen.   MANWERTHWYR Byddai manwerthwyr a


marchnadoedd ar-lein sy’n gwerthu’r dyfeisiau hyn yn wynebu costau cydymffurfio a llai o refeniw yn y dyfodol oherwydd y gwaharddiad, a byddai’n ofynnol iddynt amsugno costau unrhyw stoc heb


eu gwerthu.   DOSBARTHWYR A GWEITHGYNHYRCHWYR Byddai’n ofynnol i fusnesau sy’n dosbarthu neu’n gweithgynhyrchu’r dyfeisiau hyn yn y DU ar hyn o bryd roi’r gorau i’w dosbarthu, ac amsugno


costau unrhyw beiriannau a stoc heb eu gwerthu. Ni chanfuwyd tystiolaeth o weithgynhyrchwyr wedi’u lleoli yn y DU.   COSTAU SEFYDLU Y SECTOR PREIFAT 41. Byddai’n ofynnol i fusnesau sy’n


gweithgynhyrchu, dosbarthu neu werthu ffermydd SIM roi’r gorau i’w gwerthu, dosbarthu, a chynhyrchu, ac amsugno costau unrhyw stoc heb eu gwerthu. 42. Byddai’n rhaid i fusnesau sy’n


defnyddio ffermydd SIM yn gyfreithlon ar hyn o bryd eu cau a dod o hyd i dechnolegau amgen i’w defnyddio. Heb ragor o dystiolaeth ynglŷn â maint y defnydd, ac achosion o’u defnyddio, nid


oedd modd gwneud asesiad pellach o’r gost hon. 43. Mae troseddwyr yn defnyddio ffermydd SIM drwy roi nifer fawr o gardiau SIM, sy’n cael eu prynu mewn symiau mawr, ynddynt. Byddai colli’r


ffermydd SIM hyn yn lleihau refeniw Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol gan fod llai o gardiau SIM yn cael eu gwerthu. Fodd bynnag, fel y nodir yn y manteision, ac y gwelir o’r camau y


mae Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol yn eu cymryd er mwyn cau ffermydd SIM, disgwylir y bydd yr arbedion y byddant yn eu gwneud o ran costau yn fwy na hyn. Y SECTOR CYHOEDDUS 44.


Disgwylir costau ymgyfarwyddo i’r sector cyhoeddus. Byddai disgwyl i gwnstabliaid ac uwch swyddogion yr heddlu ymgyfarwyddo â’r ddeddfwriaeth newydd. Disgwylir y bydd hyn drwy ebost neu


lythyr a fyddai’n hysbysu’r darllenydd ynglŷn â’r newidiadau mewn deddfwriaeth a diwygiadau i ddogfennau canllaw mewnol. 45. Byddai disgwyl hefyd i staff Llu’r Ffiniau ymgyfarwyddo â’r


ddeddfwriaeth, er mwyn atal ffermydd SIM rhag dod i mewn i’r DU. Disgwylir y bydd hyn yn digwydd drwy ebost neu lythyr a fyddai’n hysbysu’r darllenydd ynglŷn â’r newidiadau mewn deddfwriaeth


a diwygiadau i ddogfennau canllaw mewnol. COSTAU RHEOLAIDD A CHYFANSWM Y COSTAU (PREIFAT A CHYHOEDDUS) Y SECTOR PREIFAT 46. Byddai manwerthwyr a marchnadoedd ar-lein sy’n gwerthu’r


dyfeisiau hyn ar hyn o bryd yn wynebu costau rheolaidd, er mwyn sicrhau nad yw ffermydd SIM yn cael eu hysbysebu neu eu cynnig ar werth ar eu platfformau yn y dyfodol, a’u bod yn


cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd. 47. Gallai busnesau sy’n gwerthu ffermydd SIM ar eu platfformau weld gostyngiad mewn refeniw gan nad ydynt yn gallu gwerthu’r dyfeisiau hyn mwyach. 48.


Mae’n bosibl y byddai’r atebion amgen i fusnesau sy’n defnyddio ffermydd SIM yn gyfreithlon yn fwy costus. Byddai hyn yn golygu cost reolaidd sy’n hafal â’r gwahaniaeth. 49. Nid oedd modd


gwneud asesiad pellach o’r costau i’r sector preifat gan nad oes gan y Swyddfa Gartref wybodaeth am y farchnad ar gyfer ffermydd SIM. BUDDION 50. Oherwydd prinder data ynglŷn â nifer y


ffermydd SIM sydd yn y DU, bydd y nodyn economaidd hwn yn darparu asesiad ansoddol yn unig o fanteision posibl y ddeddfwriaeth arfaethedig. BUDDION SEFYDLU 51. Ni ddisgwylir unrhyw fuddion


sefydlu. BUDDION RHEOLAIDD A CHYFANSWM Y BUDDION Y SECTOR PREIFAT 52. Gall ffermydd SIM arafu mynediad i’r rhwydwaith i gwsmeriaid, gan gynnwys achosi i fastiau signal beidio â gweithio


weithiau. Gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr fuddsoddi mewn gwaith i ddiweddaru seilwaith er mwyn cynyddu capasiti. Bydd gweithredwyr naill ai’n pasio’r gost ymlaen i gwsmeriaid


drwy godi eu prisiau neu’n amsugno cost diweddaru ar eu traul eu hunain. Yn achos un gweithredwr, gwnaethpwyd buddsoddiad o £0.25 miliwn er mwyn cynyddu capasiti mewn ardal cell, ond


darganfuwyd yn dilyn hynny bod 70-80 y cant o’r traffig yno yn cael ei yrru gan ffermydd SIM, yn hytrach na defnydd cyfreithlon. Byddai’r ddeddfwriaeth o fudd i weithredwyr drwy leihau’r


risg bod ffermydd SIM yn rhoi baich ormodol ar ardaloedd celloedd. 53. Mae costau ffermydd SIM i Weithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol, er enghraifft tagu rhwydweithiau, a chardiau SIM am


gyfnodau byr, yn arwain at gymhellion i nodi a blocio cardiau SIM sy’n cael eu defnyddio mewn ffermydd SIM. Mae un gweithredwr (BT/EE) yn dweud ei fod wedi blocio 30,000 o gardiau SIM er


mis Awst 2021. Disgwylir y bydd llai o angen i flocio’r cardiau SIM hyn yn lleihau costau gweithredu Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol. 54. Fel arfer mae cost gweithgynhyrchu a


dosbarthu cardiau SIM yn cael ei chydbwyso wrth i’r defnyddiwr brynu contract misol neu funudau/SMS talu-wrth-fynd. Mae ar ffermydd SIM angen nifer fawr o gardiau SIM, sy’n cael eu cyfnewid,


eu blocio a’u gwaredu yn aml, weithiau cyn pen 30 munud ar ôl cael eu galluogi. Gall hyn fod yn golled i weithredwyr a disgwylir y bydd gwahardd ffermydd SIM yn lleihau’r gost hon. 55. Yn


ôl y camau y mae Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol yn eu cymryd i gau ffermydd SIM, disgwylir y byddai’r buddion a restrwyd uchod yn fwy na’r colledion refeniw a eglurwyd yn yr adran


ar gostau i’r sector preifat. Y CYHOEDD 56. Gall troseddwyr ddefnyddio ffermydd SIM i anfon degau o filoedd o negeseuon testun sgam ar unwaith. Byddai gwahardd ffermydd SIM yn ei gwneud yn


anos i anfon nifer fawr o negeseuon sgam, ac mae’n debyg y byddai’n lleihau nifer y negeseuon testun sgam y mae defnyddwyr yn eu derbyn. 57. Disgwylir y bydd hyn yn lleihau lefelau twyll,


a’r niwed economaidd-gymdeithasol cyfatebol. Byddai lefelau llai o dwyll i’r cyhoedd yn lleihau’r niwed emosiynol i ddioddefwyr, costau cefnogi dioddefwyr a cholledion ariannol. 58. Os yw


ffermydd SIM yn achosi tagfeydd ar rwydweithiau, mae defnyddwyr yn profi llai o gysylltedd rhwydwaith wrth geisio anfon galwadau a negeseuon testun dilys ar rwydwaith. Byddai gwahardd


ffermydd SIM yn lleihau tagfeydd rhwydwaith ac yn darparu gwell gwasanaeth i ddefnyddwyr ar rwydweithiau ffonau symudol wrth geisio gwneud galwadau a negeseuon testun dilys. METRIGAU GWERTH


AM ARIAN ASESIAD O FUSNESAU BACH A BUSNESAU MICRO 59. Disgwylir na fyddai llawer iawn o effaith ar fusnesau bach a busnesau micro, gan na fu modd nodi unrhyw ddefnydd cyfreithlon o’r


dyfeisiau hyn gan fusnesau bach a busnesau micro. Mae’n bosibl bod rhai busnesau bach a busnesau micro wedi prynu ffermydd SIM, ond ni wyddom beth yw maint y broblem hon, a disgwylir y bydd


hyn yn cael ei amlygu drwy’r cais am dystiolaeth. 60. Yn achos y busnesau hyn, byddai cost ymlaen llaw i newid am ddyfais arall, a gallai’r gost hon gael effaith ariannol gymharol fwy ar


fusnesau bach a micro. Nid yw’n glir, fodd bynnag, i faint o fusnesau y byddai hyn yn gymwys, ac o ystyried cost uwch ffermydd SIM nid yw’n debygol y byddai hyn yn digwydd. 6. RISGIAU 61.


Nid yw’n ymddangos bod y mesurau arfaethedig yn achosi risgiau mawr; fodd bynnag, mae’r canlynol wedi’u nodi fel problemau posibl: a. Mae risg y byddai’r effaith ar fusnes yn fwy nag y bu’n


bosibl amcangyfrif, gan nad oes llawer o sail dystiolaeth. Mae’r broses ymgynghori yn ceisio cael yr wybodaeth hon drwy’r ymgyngoreion, a thrwy hynny liniaru risg bosibl cyflwyno


deddfwriaeth heb ddeall yn iawn beth yw’r gost i fusnes. b. Byddai’r gwaharddiad arfaethedig yn cyfyngu ar allu troseddwyr i anfon SMS torfol, ond ni fyddai’n eu hatal rhag gwneud hynny yn


gyfan gwbl. Gallai symud troseddwyr at ddulliau eraill o gyflawni twyll. Mae’r Swyddfa Gartref yn ymwybodol o nifer o ffyrdd posibl o gwmpas y gwaharddiad a fyddai’n dal yn golygu bod modd


anfon negeseuon SMS ar raddfa fawr. c. Gan fod dulliau eraill yn bodoli, nid yw’r polisi hwn yn disgwyl atal negeseuon SMS torfol troseddol yn gyfan gwbl, ond mae’n ceisio ei gwneud yn anos


i droseddwyr anfon negeseuon o’r fath. d. Mae’r dulliau amgen hyn yn aml yn fwy costus, yn galw am fwy o wybodaeth dechnolegol, neu’n llai effeithlon. O ganlyniad, gellir disgwyl o hyd i’r


gwaharddiad leihau nifer y negeseuon testun sgam sy’n cael eu hanfon. 7. GWEITHREDU, MONITRO A GWERTHUSO 62. Bydd y Swyddfa Gartref yn datblygu cynllun monitro a gwerthuso ar ôl i’r


ddeddfwriaeth a’r trefniadau gweithredu terfynol gael eu cwblhau. RHESTR WIRIO PRAWF EFFAITH BENODOL PRAWF EFFAITH BENODOL GORFODOL – DYLETSWYDDAU CYDRADDOLDEB STATUDOL DYLETSWYDDAU


CYDRADDOLDEB STATUDOL Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu, hybu cyfle cyfartal, a


meithrin cysylltiadau da wrth ddatblygu polisïau a darparu gwasanaethau. Prif amcan y cynigion yw ei gwneud yn anos i droseddwyr gael mynediad at dechnolegau a fydd yn caniatáu iddynt


gyflawni twyll ar raddfa fawr ac am gost isel. Bydd y polisi yn y bôn yn ychwanegu rhwystrau i atal twyllwyr sy’n ceisio cysylltu â darpar ddioddefwyr. Nid oes tystiolaeth o wahaniaethu


uniongyrchol o ganlyniad i gynigion y polisi. Yn gyffredinol, mae’r Swyddfa Gartref yn credu bod y budd o’r polisïau hyn yn fwy nag unrhyw risgiau posibl. Drwy roi mwy o bwyslais ar leihau


cyfleoedd i dwyllwyr, mae baich atal twyll yn cael ei leihau i’r cyhoedd. Mae hyn yn caniatáu i bawb, gan gynnwys y rhai sydd mewn grwpiau nodweddion gwarchodedig, ymwneud â chyfathrebiadau


bob dydd yn fwy diogel a heb gael eu cau allan. Mae’r cynigion yn ymwneud â phob cymuned, demograffeg a nodweddion gwarchodedig fel ei gilydd. Maent yn ceisio atal twyllwyr rhag ceisio


cysylltu â’u darpar ddioddefwyr, a thrwy hynny’n rhoi mwy o ddiogelwch i bob darpar ddioddefwr, pa un a oes ganddynt nodweddion gwarchodedig ai peidio. Yn yr un modd, mae’r cynigion yn rhoi


baich cyfrifoldeb ar gwmnïau i beidio â phrynu, gwerthu, meddu a defnyddio ffermydd SIM; a sefydliadau gorfodi’r gyfraith i ganfod, stopio ac atal y gweithgareddau hyn. Mae’n debygol o


leihau’r baich ar bobl oedrannus, nad ydynt wedi cael cymaint o addysg dechnolegol, i addysgu eu hunain am ddiogelwch telathrebu, a bydd yn cynyddu’r cyfleoedd i bawb sydd â nodweddion


gwarchodedig ddefnyddio’r rhwydwaith telathrebu, yn fwy diogel rhag twyll. CWBLHAWYD: Do * Arolwg Troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr: Rhagfyr 2022:


https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunit y/crimeandjustice/datasets/crimeinenglandandwalesappendixtables ↩ * Action Fraud. Fraud Crime Trends 2020-21.


https://www.actionfraud.police.uk/data ↩ * Fraud sector charter: telecommunications - GOV.UK (www.gov.uk) -


[https://www.gov.uk/government/publications/joint-fraud-taskforce-telecommunications-charter] (https://www.gov.uk/government/publications/joint-fraud-taskforce-telecommunications-charter) - 


↩ * Statement: Improving the accuracy of Calling Line Identification (CLI) data – Ofcom - https://www.ofcom.org.uk/consultations-and-statements/category-2/improving-cli-data-accuracy ↩ * Mae


‘ffugio’ rhifau, lle mae manylion adnabod y galwr yn cael eu cuddio, yn ffactor sydd i’w weld yn aml mewn galwadau sgam. ↩ * Arolwg Sgamiau Ofcom: Awst 2022: https://www.ofcom.org.uk/


data/assets/pdf_file/0029/247493/ofcom-cli- and-scams-research-august-2022-slides.pdf ↩ * Deddf Twyll (2006) https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2006/35/contents ↩ * Defnyddio dichell i


gael unigolion i ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol neu bersonol a allai gael ei defnyddio at ddibenion twyllodrus. ↩ * Mae gwe-rwydo drwy SMS, sydd hefyd yn cael ei alw yn ‘smishing’ yn


digwydd drwy SMS a’r nod yw ceisio twyllo defnyddwyr i ddatgelu gwybodaeth bersonol â negeseuon sy’n ymddangos yn ddilys, er enghraifft rhybuddion yn dod gan fanciau. ↩ * Arbenigwr yn y


diwydiant telathrebu sy’n dymuno aros yn ddienw. ↩ * Mae Porth System Fyd-eang Cyfathrebu Symudol (GSM) yn golygu unrhyw offer yn cynnwys cerdyn SIM sy’n galluogi llwybro galwadau o gyfarpar


sefydlog i offer symudol drwy sefydlu galwad o un ddyfais symudol i un arall. ↩ * Fraud sector charter: telecommunications - GOV.UK:https://www.gov.uk/government/publications/joint-fraud-


taskforce-telecommunications-charter ↩ * Guidance on the provision of Calling Line Identification facilities and other related services – Ofcom:


https://www.ofcom.org.uk/phones-telecoms-and-internet/information-for-industry/telecoms-industry- guidance/calling-line-identification ↩ * Yr arfer twyllodrus o anfon negeseuon testun sy’n


honni eu bod gan gwmnïau dibynadwy er mwyn cael unigolion i ddatgelu gwybodaeth bersonol, fel cyfrineiriau neu rifau cardiau credyd. ↩ Back to top